Meini Prawf Cymhwysedd
- Mae rhaid i'r cartref fod wedi'i gofrestru gydag Adran treth y Cyngor yr awdurdod fel eiddo gwag (heb ei feddiannu) ar hyn o bryd, a rhaid ei fod wedi bod yn wag o leiaf 12 mis adeg cyflwyno'r cais. (Mae'n rhaid i'r eiddo fod wedi bod yn wag (heb ei feddiannu a heb bron i ddim dodrefn) am gyfnod o 12 mis o leiaf ar ddyddiad y cais ac yn gymwys fel eiddo gwag trethadwy.• Mae eiddo gwag trethadwy yn eiddo sydd wedi bod yn wag (heb ei feddiannu a heb bron i ddim dodrefn) am o leiaf 6 mis ac sydd wedi'i restru fel eiddo domestig at ddibenion y dreth gyngor. Er mwyn bod yn gymwys fel eiddo gwag trethadwy, mae'n rhaid i eiddo fod wedi cael ei brisio a'i fandio gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio a'i roi ar Restr Brisio'r Dreth Gyngor. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma At ddibenion y grant, mae'n rhaid i'r eiddo fod wedi'i restru fel eiddo domestig am o leiaf 12 mis i fod yn gymwys.)
- Rhaid bod y cartef gwag wedi'i leoli yn aral un o'r Awdurdodau Lleol sydd yn rhan o'r cynllun, cliciwch yma i weld os yw'r grant ar gael yn eich Awdurdod Lleol chi.
- Rhaid i ymgeiswyr fod yn berchen, neu ar fin bod yn berchen, a yr eiddo. Rhaid iddyn nhw fwriadu byw yn yr eiddo gwag a'i ystryied yn ei unig a prif gartef, a hynny am gyfnod o 5 mlynedd o'r dyddiad mae'r gwaith sydd wedi'i dalu gan y grant yn cael ei ardystio (cynod amod y grant).
Nodwch y bydd y meini prawf o ran cysylltiadau â'r ardal leol yn berthnasol i'r Awdurdodau Lleol canlynol - Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion ac Abertawe (Ward Y Gŵyr). Mae modd gweld rhagor o wybodaeth am y meini prawf yma yn y ffurflen gais.