Skip to main content

Ynghylch

Mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu ac wedi ymrwymo i helpu trigolion i adnewyddu cartrefi gwag er mwyn adfywio cymunedau a darparu tai fforddiadwy, y mae galw mawr amdanyn nhw, i unigolion ledled Cymru.

Yr hyn y mae angen i chi ei wybod

Bydd ymgeiswyr posibl sy'n bodloni'r meini prawf uchod yn cael eu hystyried am grant er mwyn mynd tuag at gost trwsio'r eiddo gwag. Bydd hyn yn ddibynnol ar yr amodau canlynol:

  • Uchafswm y grant tuag at gost gwaith yw £25,000 (mae ffïoedd ategol ar ben hyn). 
  • Bydd gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn ofyniad y rhan o'r gwaith sy'n cael ei gynnal ar yr eiddo.
  • Rhaid i ymgeiswyr sy'n berchen ar eiddo gyfrannu 15% o gyfanswm y gost ar gyfer gwaith cymwys hyd at £25,000 (sef uchafswm o £3,750). Bydd y cyfraniad gorfodol yn cael ei hepgor yn achos ymgeiswyr sy'n wynebu caledi ariannol.
  • Bydd y grant ond yn cael ei dalu ar gyfer gwaith sydd wedi'i nodi gan syrfëwr yr Awdurdod Lleol.  Dim ond gwaith angenrheidiol i wneud yr eiddo'n ddiogel a chael gwared ar unrhyw beryglon Categori 1 fydd yn cael ei ystyried.
  • Fydd pob ymgeisydd ddim yn derbyn y swm dyfarniad grant uchaf.  Fydd dim grant o gwbl yn cael ei roi i brosiectau lle mae'r gwaith sydd wedi'i asesu gwerth llai na £1,000.
  • Rhaid cwblhau'r gwaith dan sylw cyn bod modd derbyn arian y grant.  Os yw cost y gwaith yn fwy nag uchafswm £20,000 y grant, chi fydd yn gyfrifol am ariannu gweddill y gost.   Rhaid i chi sicrhau bod gyda chi'r arian i gwblhau'r gwaith dan sylw.
  • Dyw unrhyw waith sydd wedi'i gwblhau cyn yr arolwg a chyn cymeradwyo'r grant ddim yn gymwys ar gyfer y grant.
  • Bydd raid ad-dalu'r grant yn llawn os yw'r eiddo'n cael ei werthu neu os fydd neb yn byw yn yr eiddo o fewn y cyfnod sy'n amod i'r grant, sef 5 mlynedd. Nodwch gall fod angen i ymgeiswr sydd wedi newid eu enw i darparu tystiolaeth ychwanegol i gefnogi eu cais.
  • Rhaid i Bridiant Cyfreithiol gael ei gofrestru i deitl yr eiddo yn y Gofrestrfa Tir, a hynny o blaid yr Awdurdod Lleol.